Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ymdrechu i sicrhau bod y wefan hon yn hygyrch ac yn hawdd i bawb ei defnyddio, waeth pa borwr rydych yn dewis ei ddefnyddio pe bai gennych unrhyw anableddau ai peidio.
Mae cynllun y safle'n cymryd i ystyriaeth defnyddwyr sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg, ac mae'n addas ar gyfer meddalwedd darllen sgrin boblogaidd. Os ydych yn cael trafferth defnyddio llygoden, gallwch lywio'r wefan drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
Mae hygyrchedd gwefan Llywodraeth y Cynulliad yn seiliedig ar Ganllawiau ar Hygyrchedd Cynnwys y We 1.0 Consortiwm y We Fyd-eang (W3C) ac yn gweithio gydag awduron cynnwys y we, datblygwyr a sefydliadau pobl anabl i fodloni'r safon AA lle bynnag y bo modd.
Mae cynnal gwefan hygyrch yn broses barhaus ac rydym yn gweithio bob amser i gynnig profiad hwylus i'r defnyddiwr. Os nad oes modd bodloni'r safonau uchaf o ran hygyrchedd, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn darparu'r wybodaeth mewn fformat hygyrch yn ôl y galw.